Habitats & Species Manager

Coetir Anian (Cambrian Wildwood)

Machynlleth, Powys, Wales
£28,241 - £36,671 pro rata (3 days/week)
Part Time • Permanent
Closing on Thu, 3rd Jul 2025

Conservation & WildlifeEcology


PLEASE SCROLL DOWN FOR ENGLISH

TEITL Y SWYDD: Rheolwr Cynefinoedd a Rhywogaethau (rhan amser) 

PWRPAS A CHWMPAS Y SWYDD 

Mae Coetir Anian yn elusen fach sydd wedi'i lleoli yng nghanolbarth Cymru. Rydym yn rheoli Bwlch Corog, safle ucheldir 142ha ger Machynlleth, wedi'i brydlesu gan Coed Cadw, lle rydym wedi bod yn adfer coetiroedd brodorol a chynefinoedd mawn ucheldir ar y safle ers 2017. Yn ogystal â rheoli tir, rydym yn cynnal rhaglenni gwirfoddoli, addysg a lles sy'n cysylltu pobl â natur. Rydym hefyd yn gweithio gyda thirfeddianwyr cyfagos i wella bioamrywiaeth a chysylltedd ecolegol ar draws y dirwedd ehangach. Am ragor o wybodaeth gweler www.coetiranian.org. 

Mae Coetir Anian yn chwilio am Reolwr Cynefinoedd a Rhywogaethau medrus a brwdfrydig i arwain ein strategaeth rheoli tir a chydlynu adferiad ecolegol ar draws ein safle. Yn ogystal, bydd y rôl hon yn helpu i lunio a chyflawni ein prosiect adfer natur arloesol ar raddfa dirwedd mewn partneriaeth â thirfeddianwyr cyfagos, i gefnogi pori cadwraeth, creu coetiroedd, adfer mawndiroedd ac adferiad natur ehangach o fewn ac o amgylch ardaloedd gwarchodedig cyfagos. 

Bydd y tasgau'n cynnwys rheoli staff, contractwyr a gwirfoddolwyr; monitro ac arolygu cynefinoedd a bywyd gwyllt; datblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer rheoli ac adfer cynefinoedd (rheoli Molinia a rhedyn; cynllun plannu coed blynyddol; datblygu cynlluniau adfer mawndir pellach, a chynllun ar gyfer amddiffyn llygod dŵr); cynllunio a chyflawni rhaglenni adfer rhywogaethau; cofnodi a mapio ein gwaith cynefinoedd ar QGIS, darparu arbenigedd ecolegol i brosiectau a ddatblygwyd gyda'n grŵp newydd o berchnogion tir cyfagos; cynnal diwrnodau gwaith gwirfoddol, a gweithio gyda'n rheolwr addysg i sicrhau bod tasgau a gyflawnir gan ein grwpiau ieuenctid yn cyd-fynd â'n strategaeth rheoli tir. Bydd y gwaith yn cael ei ariannu'n bennaf gan grant o’r Gronfa Rhwydweithiau Natur dros y ddwy flynedd nesaf. 

Mae gwybodaeth gadarn am ecoleg ucheldir a choetiroedd yng nghyd-destun canolbarth Cymru, profiad o reoli tir ar gyfer cadwraeth natur, ac angerdd dros fywyd gwyllt ac adfer natur yn hanfodol, ynghyd â sgiliau pobl rhagorol. Mae cefndir mewn ecoleg, coedwigaeth neu reoli tir yn ddymunol. Bydd angen i chi fod yn rheolwr prosiect effeithiol, yn gallu arwain a chydlynu ystod eang o weithgareddau sy'n cefnogi adferiad natur. Fel meddyliwr strategol, byddwch yn cyfrannu at ddatblygu prosiectau o fewn tîm bach, cydweithredol. Mae sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf yn hanfodol ar gyfer gweithio gyda chydweithwyr, rheoli swyddog prosiect, contractwyr a gwirfoddolwyr, ac ymgysylltu ag ymwelwyr a grwpiau ieuenctid. 

Gallwch ddisgwyl treulio tua thraean o'ch amser yn yr awyr agored ym Mwlch Corog ym mhob tywydd, gan weithio'n annibynnol ac mewn ardaloedd anghysbell yn aml.

Dyddiad terfyn am geisiadau: Iau 3ydd Gorffennaf.


JOB TITLE: Habitats and Species Manager (part-time) 

PURPOSE AND SCOPE OF THE JOB 

Coetir Anian (Cambrian Wildwood) is a small charity based in mid Wales. We manage Bwlch Corog, a 142ha upland site near Machynlleth, leased from the Woodland Trust, where we have been restoring native woodlands and upland peat habitats on site since 2017. In addition to land management, we run volunteering, education and wellbeing programmes that connect people with nature. We also work with neighbouring landowners to enhance biodiversity and ecological connectivity across the wider landscape. For more information see www.cambrianwildwood.org. 

Coetir Anian is seeking a skilled and motivated Habitats and Species Manager to lead our land management strategy and coordinate ecological restoration across our site. Additionally, this role will help shape and deliver our innovative landscape-scale nature recovery project in partnership with neighbouring landowners, to support conservation grazing, woodland creation, peatland restoration and wider nature recovery in and around nearby protected areas. 

Tasks will include managing staff, contractors and volunteers; monitoring and surveying habitats and wildlife; developing action plans for habitat management and restoration (managing Molinia and bracken; annual tree planting plan; developing further peatland restoration plans, and a plan for water vole protection); planning and delivering species restoration programmes; recording and mapping our habitats work on QGIS, providing ecological expertise to projects developed with our recently formed group of neighbouring landowners; running volunteer work days, and working with our education manager to ensure tasks undertaken by our youth groups are aligned with our land management strategy. The work will be mainly funded by a grant from the Nature Networks Fund over the next two years. 

A sound knowledge of upland and woodland ecology in the context of mid Wales, experience of managing land for nature conservation, and a passion for wildlife and nature restoration are essential, along with excellent people skills. A background in ecology, forestry or land management is desirable. You will need to be an effective project manager, able to lead and coordinate a wide range of activities that support nature recovery. As a strategic thinker, you will contribute to project development within a small, collaborative team. Strong communication and interpersonal skills are essential for working with colleagues, managing a project officer, contractors and volunteers, and engaging with visitors and youth groups. 

You can expect to spend around one third of your time outdoors at Bwlch Corog in all weathers, often working independently and in remote areas.

Deadline for applications: Thurs 3 July 2025.

How to apply Save Share

About Coetir Anian / Cambrian Wildwood

Coetir Anian is the charity running the Cambrian Wildwood project, supported by project partner and freehold owner of Bwlch Corog, Woodland Trust. Coetir Anian was founded in 2007. Cambrian Wildwood is set in the uplands of Mid Wales near the River Dyfi and the sea. It is a place and a project – restoring the habitats and species of this landscape and giving people deep nature experiences in a wild setting.

Visit website View full profile More conservation & wildlife jobs