One Voice Wales

Biodiversity Officer - North Wales / Swyddog Bioamrywiaeth - Gogledd Cymru

One Voice Wales

Home-based with frequent travel around North Wales
£29,937 pa (£36,922 FTE) Pay Award Pending
Part Time • Fixed Term
Closing on Fri, 23rd May 2025

Conservation & WildlifeEcology


Un Llais Cymru
Swyddog Bioamrywiaeth – Gogledd Cymru
Rhan-Amser 4 diwrnod yr wythnos (30Awr)
Cyflog: £29,937 y flwyddyn (£36,922 CLlA) (Codiad Cyflog yn yr Arfaeth)
Cyfnod sefydlog tan fis Mawrth 2027
(Caiff y rôl hon ei hariannu’n llawn gan raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru)

Un Llais Cymru yw’r prif gorff aelodaeth ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru. Yn dilyn 4 blynedd lwyddiannus yn datblygu a hyrwyddo bioamrywiaeth ac adferiad natur o fewn rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, rydym yn ehangu ein tîm.

Bydd Swyddog Bioamrywiaeth newydd Gogledd Cymru yn cynorthwyo Rheolydd y Rhaglen i gyflawni nodau ac amcanion rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru ar draws y sector Cynghorau Cymuned a Thref.

Rydym yn chwilio am rywun sy’n frwdfrydig ac yn meddu ar lefelau uchel o gymhelliant am adferiad natur, rhywogaethau brodorol a hyrwyddo bioamrywiaeth. Byddwch yn cynnig cefnogaeth ymarferol, cyngor arbenigol a hyfforddiant i’r sector ar adferiad natur a glasu’r stad gyhoeddus ac yn eu cynorthwyo i reoli tir amwynder yn effeithiol ar gyfer bioamrywiaeth. Byddwch yn eiriolydd ar ran y sector ac yn cynrychioli eu hanghenion ac yn hwyluso perthnasoedd cadarnhaol rhwng Cynghorau Cymuned a Thref a mudiadau eraill.

Bydd y rôl hon yn rhoi’r cyfle ichi wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws Cymru, trwy weithio gyda gwirfoddolwyr a Chynghorwyr ymroddedig i greu, gwella ac adfer natur ar y trothwy.

Byddwch yn gweithio’n rhan o dîm, ac yn adrodd yn uniongyrchol i Reolydd Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ac fel aelod gwerthfawr o staff Un Llais Cymru, cewch eich cefnogi’n llawn gan y Prif Weithredwr a gweddill y tîm yma yn Un Llais Cymru.

Byddwch yn gweithio gartref ond bydd y rhaglen waith yn canolbwyntio’n bennaf ar Siroedd Gogleddol Cymru a bydd angen teithio rheolaidd ynghyd â pheth gwaith dros y Sul a gyda’r nos. Bydd angen ichi weithio yn yr awyr agored ymhob tywydd ac ar dirwedd o bob math. Mae bod yn siaradwr Cymraeg rhugl yn ddymunol ond nid yn hanfodol, ond mae sgiliau iaith Gymraeg o Lefel 1-3 neu’r parodrwydd i ddysgu yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Er mwyn cael gwybod mwy am yr hyn a wnawn yma yn Un Llais Cymru ewch i’n gwefan. Os hoffech drafod y rôl yn fanylach mae croeso ichi gysylltu â Rheolydd Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Rachel Carter: [email protected] 

Croeso i chi wneud cais yn Gymraeg neu’n Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.

Er mwyn gofyn am becyn gwneud cais ewch i Wefan Un Llais Cymru.

Ni dderbynnir dogfennau CV.

Dyddiad Cau: Ganol nos ar y 23ain Mai 2025

Mae Un Llais Cymru yn Gyflogydd Cyfleoedd Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.


One Voice Wales
Biodiversity officer – North Wales
Part-Time 4 days per week (30Hrs)
Salary: £29,937 per annum (£36,922 FTE) (Pay Award Pending)
Fixed term until March 2027
(This role is fully funded by the Welsh Government Local Places for Nature programme)

One Voice Wales is the principal membership organisation for Community & Town Councils in Wales. Following a successful 4 years developing and promoting biodiversity and nature recovery within the Local Places for Nature programme, we are expanding our team.

The new North Wales Biodiversity Officer will assist the Programme manager in delivering on the aims and objectives of the Welsh Government’s Local Places for Nature programme (LPfN) across the Community & Town Council (C&TC) sector.

We are looking for someone who is highly motivated and enthusiastic about nature recovery, native species and promoting biodiversity. You will provide practical support, specialist advice and training to the sector on nature recovery and greening of the public estate and to assist them to effectively manage amenity land for biodiversity. You will act as an advocate of the sector and represent their needs and facilitate positive engagement between C&TCs and other organisations.

This role will give you the opportunity to really make a difference across Wales, working with volunteers and dedicated Councillors to create, enhance and restore nature on the doorstep.

You will be working as part of a team, reporting directly to the Local Places for Nature Programme manager, and as a valued member of the One Voice Wales staff, you will be fully supported by the Chief Executive Officer and the rest of the team here at One Voice Wales.

This a home-based role but the programme of work will be primarily focused on the Northern Counties of Wales and frequent travel will be required with some occasional weekend and evening work. You will need to work outside in all weathers and in all terrains. Being a fluent Welsh speaker is desirable but not essential, however Welsh language skills at Level 1-3 or the willingness to learn are essential to this role.

To find out more about what we do here at One Voice Wales please visit our website. If you would like to discuss the role in more detail you are welcome to contact The Local Places for Nature Programme Manager Rachel Carter: [email protected] 

We welcome applications in Welsh or English and any application submitted will be treated equally.

To request an application pack please visit the One Voice Wales Website.

CVs will not be accepted.

Closing Date: Midnight on 23rd May 2025

One Voice Wales is an Equal Opportunities Employer and welcomes applications from all sections of the community.

Find out more & apply Save Share